
Mae Cyngor Tref Pontypridd yn Gyngor Cymuned sy'n cael ei alw'i hun yn Gyngor Tref yn rhinwedd ei statws fel awdurdod sy'n cwmpasu nifer o wardiau ar draws tref Pontypridd.
Daeth Cyngor y Dref i fod wrth i'r Cyngor Dosbarth Trefol gael ei ddirwyn i ben ym 1972 pan ad-drefnwyd Llywodraeth Leol. Roedd y Cyngor y pryd hwnnw'n berchen ar yr amlosgfa a Pharc Cofeb Rhyfel Ynysangharad. Ers 1972 cafodd nifer o gyfrifoldebau Cyngor y Dref eu trosglwyddo i Rondda Cynon Taf.
Mae Cyngor Tref Pontypridd yn cwmpasu'r ardal o Ystad Ddiwydiannol Trefforest i Gilfynydd, Glyn-coch a rhan o Drehafod. Mae mwy na 30,000 o drigolion yn byw yn yr ardal hon ac fel y cyfryw Cyngor Tref Pontypridd yw un o Gynghorau Cymuned mwyaf Cymru.
Mae gan Gyngor y Dref 23 o Gynghorwyr yn cynrychioli gwahanol wardiau'r awdurdod ac mae'r Cyngor ei hun yn gyfrifol am amrediad eang o wasanaethau o fewn yr ardal, gan gynnwys llochesi bysus, lleiniau garddio, seddi, mannau agored, Amgueddfa Pontypridd a Chanolfan Gymunedol Taff Meadow, ac enwi dim ond rhai. Mae Cyngor y Dref hefyd yn gyfrifol am y goleuadau Nadolig ym Mhontypridd, Gorymdaith Gludiant mis Awst drwy ganol y dref a Gorymdaith Sul y Coffa.
Pennaeth Cyngor y Dref yw'r Maer sy'n cael ei (h)ethol bob blwyddyn ym Mai (neu Fehefin mewn blwyddyn etholiad). Maer y Dref yw Pennaeth Dinesig Pontypridd a bydd yn bresennol mewn llawer o weithgareddau a digwyddiadau ledled yr ardal yn ystod ei dymor/thymor yn y swydd.
Er bod Cyngor y Dref yn fach o ran maint, mae'n fawr o ran ei ddylanwad a'i ardrawiad ar y dref a bydd yn gweithio mewn partneriaeth â llawer o gyrff, gan gynnwys Rhondda Cynon Taf, Prifysgol Morgannwg a Fforwm y Dref.
Yn rhinwedd ei agosrwydd at werin gwlad, gall weithredu'n sbardun i farn gyhoeddus i'w chyfleu i'r awdurdod unedol ehangach ac mae ganddo hawl statudol i gyflwyno sylwadau ar faterion cynllunio.
Mae Cyngor y Dref bob amser yn croesawu sylwadau trigolion gyda golwg ar ei wasanaethau a'i gyfrifoldebau - sylwadau y gellir eu cyfeirio at y Swyddfa Ddinesig.