
Y Cyng S Carter 2011 - 2012.
Derbyniodd y Cynghorydd S Carter gadwyn ei swydd ar 25 mai 2011, ar ôl gwasanaethu cynt yn Ddirprywy Faer i'r Cynghorydd Gwen Williams.
Mae'r Cyng Carter ar hyn o bryd yn aelod dros Drefforest. Fe'i ganwyd ym Mhontypridd lle y treuliodd ei ddyddiau cynnar yn Rhydyfelin, yna symud i Bentyrch am rai blynyddoedd cyn dychwelyd i fyw 37 o flynyddoedd yn ôl yn Graigwen, Pontypridd. Mae'n briod â Hilda gyda dwy ferch, Diane a Karen ac un mab, Rhys.
Treuliodd Y Cyng Carter y rhan fwyaf o'i yrfa fel Peiriannydd Mecanyddol yn gweithio i British Airways, Saudia Airways a'r MOD yn Sain Athan, a chyn ei ymddeoliad fe weithiodd am nifer o flynyddoedd fel ymchwilydd rhan amser i Dr Kim Howells.
Bu'r Cyng Carter yn aelod o Gyngor Taf Elai am 4 blynedd a Chynghorydd RhCT ar bedair blynedd yn cynrychioli Ward Tref Pontypridd. Mae hefyd wedi bod yn aelod o Gyngor Tref Pontypridd ers 14 blynedd.
Mae ganddo lawer o ddiddordebau yn cynnwys Cadeirydd Bwrdd y YMCA, Cadeirydd Fforwm Cyrchiad Lleol RhCT, Cadeirydd Amgylchfyd Coed y Lan a Grŵp Amddiffyn Llwybrau, Dirprwy gadeirydd Bwrdd Celfyddydau Cymunedol RhCT a Dirprwy Lywydd Côr Meibion Pontypridd. Mae hefyd yn aelod o Gyrff Llywodraethol Ysgol Gynradd Coed y Lan, Ysgol Uwchradd Pontypridd a Choleg Morgannwg, hefyd Grwp Cyrchiad RhCT a Fforwm Hanner Cant a Throsodd yr Henoed (Taf Elai).
Mae'r Cyng Carter wedi dewis Gorsaf Radio GTFM yn elusen y Maer am ei flwyddyn o wasanaeth.
Mae'n gobeithio y bydd ei gefnogaeth i GTFM yn dod a budd i lawer o elusennau eraill wrth iddynt gael amser i gael hyrwyddo eu hachosion yn y gymuned.
I gysylltu â GTFM: http://www.gtfm.co.uk
Rhif ffôn: 01443 406111
Y Cynth Steve Carter, Dydd Sul 18 Medi 2011, St David's Uniting Church, Pontypridd
Cyfarfu aelodau Grŵp Cadwraeth Camlas Pontypridd â Maer Tref Pontypridd, Y Cynghorydd Steve Carter yn ystod gwaith glanhau a thacluso'r wythnos diwethaf. Mae'r Grŵp yn ymgyrchu i adfer y gamlas a'r llifddorau hanesyddol ond hefyd yn ymgymryd â gwaith glanhau a thacluso cyn yr adfer, ac ar yr achlysur hwn bu gweithwyr yn ddiwyd i'r gogledd o Nightingales Bush yn clirio prysgwydd ac yn cael gwared â boncyff ar ochr y llifddorau.
Adolygodd Bill Hockey, Arweinydd y Grŵp Prosiect y cynlluniau ar gyfer yr adferiad gyda'r Maer a phenderfynu ceisio am gymorth grant. Cymeradwyodd y Maer y Grwp am eu gwaith gan annog mwy o hysbysrwydd am eu gwaith ac i greu cysylltiadau â chyrff gwirfoddol eraill. Mae'r ffotograffau'n dangos yr olygfa o Lifddor 31, y Maer gyda Colin Gregory, Cadeirydd y Grŵp Cadwraeth a'r gweithgor.
Y Cyng Gwen Williams 2010 - 2011.
Derbyniodd y Cynghorydd Gwen Williams gadwyn ei swydd ar 26 mai 2010, ar ôl gwasanaethu cynt yn Ddirprywy Faer i'r Cynghorydd Avril Reid.
Mae hi ar hyn o bryd yn aelod dros Rydfelen Canolog. Fe'i ganed yn Nhrefforest ac fe dreuliodd ei holl fywyd ym Mhontypridd ac yn briod â Mel. Mae ganddynt ferch a mab. Treuliodd y Cyng. Williams y rhan fwyaf o'i bywyd yn gweithio i Fram Filters (Sogefi erbyn hyn) yn Llantrisant a hynny am 37 o flynyddoedd.
Cyn hynny bu'n gwasanaethu fel cynghorydd dros Drefforest ar Gyngor Taf Elai am 9 mlynedd.
Mae ganddi lawer o ddiddordebau megis:
Yn ystod blwyddyn mewn swydd mae pob Maer Tref yn codi arian ar gyfer achos da sydd â chysylltiad personol ag ef/hi ac y mae'r Cyng. Williams wedi dewis y canlynol:
Fe ffurfiwyd yr elusen ym 1867 gan Thomas Branados er mwyn helpu i gyflawni potensial pob person ifanc mewn angen. Er bod yr elusen yn un byd eang bydd yr arian a godir yn mynd i Gangen Pontypridd.
Fe ffurfiwyd yr elusen hon gan rieni plant dall a rhannol ddall. Mae'n darparu rhwydwaith cymorth i rieni a'r rhai sy'n gofalu am blant mewn sefyllfaoedd cyffelyb. Fe fyddai'r rhai fu'n rhan o Ras Hwyl y Cyngor Tref wedi cydredeg ag aelodau'r elusen. Mae'r elusen yn dibynnu ar gyfraniadau i gynnal eu gwaith da.
Dyma'r hyn a ddywed y Faeres, Cyng. Williams:
Mae'n anrhydedd mawr a braint i gael fy ethol yn Faeres. Fe fyddaf yn gwneud fy nghorau glas gyda fy nghyd gynghorwyr a staff Cyngor Tref Pontypridd i drefnu llawer o achlysuron cyffrous a bythgofiadwy fydd yn codi arian ar gyfer yr achosion gwerth chweil.
Hoffai'r Cyng Gwen Williams ddiolch i bawb am eu help a'u cefnogaeth yn ystod ei blwyddyn fel maer y dref. Dywedodd, "Mae hi wedi bod yn fraint ac anrhydedd i wasanaethu fel Maer Pontypridd". Yn ystod y flwyddyn fe gododd Gwen £3,700.00 i'w helusennau dewisedig ac fe gyflwynodd ei sieciau iddynt ddydd Mawrth, Mai 24ain.
| POPSY (Rhieni pobl ifanc ddal a rhannol ddall) | £1,600.00 |
|---|---|
| Barnardos Pontypridd | £1,600.00 |
| Apêl Coffa rhyfel Pontypridd | £500.00 |
Y Cyngh Gwen Williams, Dydd Sul 18 Gorffennaf 2010, Capel Rhondda Capel y Bedyddwyr Cymreig.
Y Cyng A Reid 2009 - 2010.
Derbyniodd y Cynghorydd A Reid gadwyn ei swydd ar 27 Mai 2009, ar ôl gwasanaethu cynt yn Ddirprwy Faer i'r Cynghorydd Barrie Morgan o ward Cilfynydd.
Hi ar hyn o bryd yw'r aelod dros Rydfelen Isaf, ar ôl gwasanaethu cynt yn Nhrefforest. Cafodd ei geni ym Mhontypridd ac yno y bu'n gweithio fel gwas sifil am y rhan fwyaf o'i hoes waith.
Yn ogystal â magu dau o feibion, bu'n gwasanaethu Trefforest ar sail wirfoddol mewn llawer maes, megis Adfywio, a bu dros y blynyddoedd yn fentor i blant ysgol o bob oedran.
Yn ystod eu blwyddyn yn y swydd, bydd pob un o Feiri'r Dref yn codi arian i achosion da sydd â chyswllt personol iddyn nhw ac mae'r Cynghorydd Reid wedi dewis y canlynol:-
Bydd y Sgwadron yn cyflwyno cadlanciau i bob agwedd ar gynnal a chadw awyrennau ac ar hedfan ac ati, tra'n meithrin eu hyder personol a'u sgiliau bywyd yr un pryd.
Mae eu llwyddiant yn y cyswllt hwn yn amlwg iawn yn y ffordd y bu'r cadlanciau'n ymddwyn dros y flwyddyn wrth wasanaethu Cyngor y Dref, yn fwyaf nodedig mewn digwyddiadau Dydd y Coffa.
Mae Prosiect Ymchwil M H Lewis wedi'i seilio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a bydd yn ystyried clefydau rhedwelïol sylweddol yn yr abdomen. Ymlediadau aortaidd yr abdomen y gelwir y rhain.
Bydd yr ymchwil yn pennu rhedwelïau sydd wedi chwyddo cyn iddynt rwygo neu hollti, a chyda thriniaeth briodol, gall y claf ddisgwyl einioes arferol.
Mae'r prosiect hwn ar gerdded ers 15 mlynedd bellach ac mae'n cael hyd i'w gyllid ei hun. Caiff y gwaith sgrinio ei estyn cyn bo hir i Ysbyty'r Tywysog Siarl ac ysbytai i'r gogledd o Gaerdydd.
"Anrhydedd mawr yw cael fy ethol yn Faer ac rwy'n edrych ymlaen at hybu safiad yr achosion da yr wyf wedi'u dewis, ynghyd â safiad ein tref hanesyddol.
Rwyf wedi mwynhau fy amser yn Ddirprwy Faer ac wedi bod yn dyst i'r gwaith da a wnaeth y Cynghorydd Barrie Morgan ar eich rhan. Mae wedi fy ysbrydoli i barhau a, gobeithio, adeiladu ar sail ei gyrhaeddiad.
Rwyf wedi dewis achosion da lleol lle bydd pob punt a godir yn cael ei rhoi ar waith yn y ffordd orau sy'n bosib.
Maen nhw'n deyrnged hefyd i fy niweddar dad a gafodd ei arwisgo am ei wasanaeth i radar yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac i fy mab hynaf a ddioddefodd ymlediad aortaidd yn 41 oed.
Bydd y Cyngor, a minnau'n rhithlywydd iddo, yn trefnu llawer o ddigwyddiadau cyffrous, diddorol, llawn hwyl - yn fwyaf nodedig, ein Diwrnod Cerbydau Cludiant o Dras ym mis Awst.
Rwy'n gobeithio y bydd cymaint ohonoch â phosib yn dod i weld y digwyddiadau hyn gyda mi. Rwy'n gobeithio hefyd y galla i ddibynnu ar eich cefnogaeth i fy achosion teilwng iawn, hyd yn oed yn yr hinsawdd economaidd anodd sydd ohoni."